Map yn dangos Xinmjiang
Mae 14 o brotestwyr wedi’u saethu’n farw yn China ar ôl ymosod ar orsaf heddlu yng Ngorllewin China, yn ôl cyfryngau’r wlad.

Ond mae yna ddryswch am union natur y digwyddiad, gyda’r Llywodraeth yn sôn am ymosodiad terfysgol a’r asiantaeth newyddion swyddogol yn sôn am reiat.

Dyma’r ffigurau cyntaf swyddogol am nifer y marwolaethau ac yn ôl asiantaeth Xinhua, fe gafodd swyddog heddlu ei ladd yn ogystal â dynes a merch ifanc a oedd wedi’u dal yn wystlon.

Yn Xinhua, roedd y terfysgwyr wedi taflu bomiau petrol a cherrig ar yr heddlu, wedi dinistrio offer ac wedi rhoi’r orsaf yn ninas Hotan, ardal Xinjiang, ar dân.

Wrth i’r terfysgwyr redeg i lawr uchaf yr orsaf, fe ddechreuodd yr heddlu saethu, meddai’r asiantaeth.

Yn ôl yr heddlu a swyddogion lleol, roedd yr ymosodwyr rhwng 20 a 40 oed ac wedi gweiddi “Allah yw’r unig Dduw” wrth iddyn nhw redeg drwy’r orsaf.

Cefndir

Mae Xinjiang yn ardal anferth yng ngorllewin China, sy’n ffinio gyda gwledydd fel Rwsia, Pacistan ac Afghanistan ac mae’n cynnwys pobol o wahanol gefndiroedd ethnig ond, yn benna’, Uyghuriaid.

Mae tensiynau wedi bod yno ar hyd y blynyddoedd gan gynnwys nifer o ddigwyddiadau treisgar yn ystod y pim mlynedd diwetha’.