Dominique Strauss-Kahn
Mae cyfreithwyr y ddwy wraig sy’n cyhuddo cyn bennaeth yr IMF o geisio’u treisio wedi cwrdd ag erlynwyr yn yr Unol Daleithiau.
Mae morwyn gwesty o Efrog Newydd a nofelydd o Ffrainc wedi dwyn cyhuddiadau yn erbyn Dominique Strauss-Kahn ac mae yntau wedi gadael ei swydd gyda’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.
Doedd cyfreithwyr y forwyn a’r nofelydd Tristane Banon ddim yn fodlon dweud beth oedden nhw wedi’i drafod yn y cyfarfod dwy awr ym Manhattan ond mae’n debyg bod yr erlynwyr yn yr Unol Daleithiau eisiau gwybod mwy am yr honiadau yn Ffrainc.
Er gwaetha’ ymosodiadau ar onestrwydd y forwyn, mae ei chynrychiolwyr yn dweud eu bod yn benderfynol o ddwyn y gwleidydd i gyfraith.
‘Y gwir o bwys’
“Y gwir yw ei bod wedi dioddef ymosodiad rhywiol – ac mae’r gwir o bwys,” meddai ei chyfreithiwr, Kenneth Thompson. “Ein gobaith a’n gweddi yw y daw’r gwir allan.”
Er bod David Koubbi cyfreithiwr y nofelydd, wedi dweud na fydda hi’n rhan o’r achos yn yr Unol Daleithiau, mae’r awdurdodau ym Mharis wedi dechrau ymchwiliad i’whoniadau hithau.
Mae Tristane Banon yn dweud bod Strauss-Kahn, sy’n 62 oed, wedi ceisio’i threisio yn 2003 pan oedd yn ei gyfweld ar gyfer llyfr.
Mae cyfreithiwr Strauss-Kahn yn eu hannog i ollwng y cyhuddiadau ac mae’n gwadu honiadau’r ddwy wraig.