Llun o wefan Cronfa Achub y Plant
Mae tua 40 miliwn o blant o amgylch y byd yn byw heb ofal iechyd sylfaenol, meddai elusen ryngwladol.
Yn ôl Cronfa Achub y Plant, maen nhw’n byw mewn “diffeithdiroedd iechyd” a llawer yn amwr o glefydau y mae modd eu hatal.
Mae’r adroddiad gan yr elusen yn dweud bod 25 o ddiffeithdiroedd o’r fath mewn gwledydd sy’n datblygu.
Dyw un ym mhob saith o blant ddim yn derbyn brechiadau i atal afiechydon marwol fel diptheria, y pâs a thetanws na hyd yn oed yn derbyn triniaeth sylfaenol ar gyfer dolur rhydd.
Er eu bod yr elusen yn annog rhieni i fynd â phlant at weithiwr iechyd o leiaf 17 o weithiau ym mhum mlynedd cyntaf eu bywydau, dyw llawer o’r plant sy’n byw yn yr ardaloedd hyn erioed wedi gweld doctor, nyrs neu fydwraig, medden nhw.
Y plant tlota’n diodde’
Dyma dair o’r gwledydd lle mae’r broblem yn wael:
- Yn Ethiopia, mae 38% o’r holl blant heb ofal iechyd sylfaenol.
- Yn Nigeria, mae’r ffigur yn 33% ac ar gynnydd.
- Yn India y mae’r nifer mwya’ o blant mewn “diffeithwch iechyd” – 13 miliwn.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos mai plant tlotaf y byd sy’n fwyaf tebygol o gael eu hamddifadu o wasanaethau gofal iechyd.
Mae plant tlawd dair gwaith mwy tebygol o fyw mewn ardaloedd o’r fath na phlant o gartrefi mwy cyfoethog ac yn fwy agored i glefydau ac iechyd gwael oherwydd glanweithdra gwael, diffyg dŵr yfed diogel a diffyg maeth.
Meddai’r Gronfa Achub
“Mae yna ddatblygiadau nodedig wedi bod mewn atal marwolaethau ymhlith plant. Ac eto, mae tua 40 miliwn o’r plant mwyaf tlawd a bregus yn cael eu hamddifadu o ofal iechyd sylfaenol,” meddai Patrick Watt, Cyfarwyddwr datblygu polisi Cronfa Achub y Plant yn y Deyrnas Uned
“Mae bodolaeth diffeithdiroedd gofal iechyd yn dangos fod ymdrechion bydeang i leihau marwolaethau plant yn methu â chyrraedd rhai o’r plant tlotaf ac mae’r diffyg gofal iechyd hwn yn eu gadael mewn peryg o farw.”