Llong ofod atlantis
Mae peilotiaid llong ofod ddiweddara’ NASA wedi gorfod trwsio un arall o’u prif gyfrifiaduron, wedi iddo dorri i lawr a seinio larwm a gadwodd y criw yn effro yn y nos.

Mae NASA wedi datgan fod pob un o bump prif gyfrifadur Atlantis yn gweithio, wrth iddyn nhw edrych i mewn i’r digwyddiadau diweddara’, sydd wedi golygu fod dau gyfrifiadur wedi cau i lawr yn annibynnol i’w gilydd yn ystod cyfnod byr.

Mae’n ofnadwy o anarferol i gyfrifiaduron fethu fel hyn yn y gofod, meddai’r prif gyfarwyddwr, Kwatsi Alibaruho.

Mae’r ddwy broblem – ar y ddau gyfrifiadur – yn wahanol iawn i’w gilydd, meddai. Y switsh oedd achos y cynta’, ac mae’n debyg mai ymbelydredd cosmig oedd i gyfri’ am yr ail fethiant.

“Rydw i’n ofalus obeithiol y bydd gyda ni sustem brosesu data iach yn fuan iawn,” meddai Kwatsi Alibaruho wrth annerch y wasg y penwythnos hwn, cyn ychwanegu y bydd Atlantis yn dychwelyd i’r Ddaear yr wythnos nesa’. “Rydyn ni’n cadw llygad barcud ar yr hyn sy’n digwydd yn y cyfamser,” meddai wedyn.