Aethpwyd a chenhadwr 20 oed i ysbyty yn Guatemala ar ôl i ddau lew ymosod arno mewn sw.

Dioddefodd y Mormon o dalaith Utah yn yr Unol Daleithiau anafiadau difrifol i’w fraich a’i goes o ganlyniad i’r ymosodiad yn nhref Esquipulas.

Dywedodd llefarydd ar ran Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf yn Salt Lake City fod Paul Richard Oakey wedi cael llawdriniaeth yn yr ysbyty.

Dywedodd Scott Trotter, llefarydd ar ran yr eglwys, fod dau lew wedi cydio yn Paul Oakey wrth iddo sefyll yn rhy agos at gaets y llewod.

Roedd yn ceisio tynnu llun ar y pryd, meddai.

Cafodd Paul Oakley ei achub gan genhadwr arall, Elder Lopez, a ddefnyddiodd bolyn hir gwyn er mwyn datod gafael un o’r llewod ar fraich y cenhadwr ifanc.