Mae marchnadoedd ariannol Ewrop eu taro’n galed heddiw yn wyneb pryderon fod yr Eidal a Sbaen yn mynd i gael eu llusgo i mewn i’r argyfwng ariannol.

Mae’r stociau, yr Ewro a bondiau Llywodraethol wedi cwympo gan awgrymu bod buddsoddwyr yn pryderu na fydd yr Eidal yn gallu dygymod â’u dyledion.

Fe fyddai achub yr Eidal a Sbaen – y drydydd a’r bedwaredd economi fwyaf yn ardal yr Ewrop – yn rhy ddrud i gronfa achub yr UE, felly mae eu sefydlogrwydd yn holl bwysig.

Roedd masnachwyr yn pryderu bod gweinidogion wedi bod yn amwys yn eu haddewidion o fesurau cymorth newydd ym Mrwsel ddydd Llun. 

Dim ond ychydyg y gwnaeth y pwysau ar y farchnad Eidalaidd leihau wrth i’r Gweinidog Cyllid Giulio Tremonti gyhoeddi cynlluniau i ddwysáu mesuriadau caledi’r wlad.

Fe ddywedodd Neil MacKinnon, strategwr gyda’r cwmni o economegwyr VTB Capital nad oes modd “diystyru’r posibilrwydd o un o fanciau mawr ardal yr ewro’n cwympo.”