Map yn dangos lleoliad talaith New Mexico yn America (o wefan Wikipedia)
Mae tiroedd sy’n gysegredig i Indiaid brodorol America wedi cael eu difrodi gan dân anferthol sy’n lledaenu trwy ogledd talaith New Mexico.

Mae dros 1,600 o ymladdwyr tân wrthi’n ceisio’r rheoli’r tân wrth iddo losgi trwy geunant ar diriogaeth frodorol Pueblo Santa Clara.

Mae pryder y bydd cabanau a phentrefi’n cael eu dinistrio gan y tân sy’n ymestyn dros 177 milltir sgwâr, y mwyaf yn hanes talaith New Mexico.

Mae tua 2,800 o Indiaid Pueblo yn byw gerllaw ceg Ceunant Santa Clara lle mae fforestydd aethnen a phyrwydd glas yn rhoi lloches o’r anialwch cras a llynnoedd yn darparu dŵr.

Er gwaetha’r boen o golli dros 20 milltir sgwâr o fforestydd, dywedodd llywodraethwr Pueblo Santa Clara, Walter Dasheno y bydden nhw’n dychwelyd yno.

“Rydym am ddweud hanes yr hyn a ddigwyddodd wrth ein plant a’n hwyrion, Ac ydym, rydym am wylo,” meddai.

Mae safleoedd archaeolegol i’r gogledd o’r tân o arwyddocâd hanesyddol pwysig i’r llwythau lleol, ac yn cael eu cydnabod ymhlith henebion cenedlaethol America. Fe fydd y rhain hefyd o dan fygythiad os na bydd y tân yn cael ei reoli.