Muammar Gaddafi
Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod hofrenyddion Apache o Brydain wedi taro canolfan filwrol sy’n cael ei defnyddio gan Muammar Gaddafi i ormesu pobl gyffredin Libya.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth i Gaddafi fygwth ymosodiadau ar Ewrop oni fydd Nato yn rhoi’r gorau i’w ymosodiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran cynghrair Nato fod ei lluoedd wedi distrywio mwy na 50 o dargedau milwrol yng ngorllewin Libya yr wythnos yma.
Mae’r ymosodiadau’n anelu at daro lluoedd teyrngar i Gaddafi sydd wedi bod yn ymgasglu mewn dinasoedd yng ngorllewin y wlad ac ar hyd y prif ffyrdd.
Gwersyll milwrol
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, yr Is-gadfridog Nick Pope, i hofrenyddion Apache gael eu defnyddio i dargedu gwersyll milwrol Al Mayah ger Az Zawiyah, i’r gorllewin o’r brifddinas Tripoli.
“Mae’r gwersyll wedi cael ei ddefnyddio gan luoedd y gyfundrefn fel canolfan i frawychu’r boblogaeth leol,” meddai.
“Mewn un ymosodiad cyn hanner nos, fe wnaeth hofrenyddion Apache Prydain ddefnyddio taflegrau a chanonau i ddistrywio neu ddifetha cerbyd rheoli, safle tanio a thri thanc.”
Dial
Mewn neges dros y ffôn at ei gefnogwyr mewn rali yn Tripoli neithiwr, rhybuddiodd Gaddafi y gallai pobl Libya ddial ar yr ymosodiadau gan Nato.
“Fe allwn ni benderfynu eich trin chi mewn ffordd debyg,” meddai. “Fe allwn symud i Ewrop fel locustiaid, fel gwenyn. Rydym yn eich cynghori chi i ildio cyn y byddwch yn wynebu trychineb.”