Dominique Strauss-Kahn
Mae cyn bennaeth yr IMF, Dominique Strauss-Kahn, wedi cael ei ryddhau o fod yn gaeth mewn tŷ ar ôl i’w erlynwyr gydnabod bod amheuon difrifol ynghylch hygrededd y forwyn gwesty a’i cyhuddodd o ymosodiad rhywiol.

Er bod cyhuddiadau yn ei erbyn yn sefyll ar hyn o bryd, a gwrandawiad arall i fod i ddigwydd ar 18 Gorffennaf, mae dyfalu cynyddol y bydd yr achos yn cael ei ollwng..

Dywedodd cyfreithiwr ar ran Strauss-Kahn fod y datblygiadau diweddaraf yn rhyddhad mawr iddo.

“Mae’r achos yn dangos pa mor hawdd yw hi i bobl gael eu cyhuddo o droseddau difrifol ac i eraill ruthro i’w barnu,” meddai William W Taylor.

Er nad yw Strauss-Kahn wedi cael ei basport yn ôl, mae’n rhydd i deithio o fewn yr Unol Daleithiau.

Roedd pennaeth 62 oed yr IMF wedi cael ei gaethiwo mewn tŷ moethus yn Efrog Newydd ar fechnïaeth o $6 miliwn ar ôl iddo gael ei arestio ar gyhuddiadau o geisio treisio.

Roedd yr erlynwyr wedi cytuno â chais ei gyfreithwyr am lacio amodau ei fechnïaeth.

Anwireddau

Dywedodd yr erlynwyr fod dioddefwraig y drosedd honedig wedi dweud pob math o anwireddau, gan gynnwys dweud celwydd wrth y rheithgor. Roedd hi wedi parhau i lanhau ystafelloedd y gwesty ar ôl yr ymosodiad honedig, yn hytrach nag adrodd y mater ar unwaith fel yr honnodd yn wreiddiol.

Roedd hi hefyd wedi cael ei recordio’n siarad am yr achos ac am gyfoeth Strauss-Khan mewn galwad ffôn i ddyn a oedd yn y carchar am droseddau’n ymwneud â chyffuriau. Yn ogystal, roedd amheuon ynghylch degau o filoedd o ddoleri mewn cyfrifon banc yn ei henw.

Dywedodd y Cyfreithwr Ardal Cyrus R. Vance Jr. fod yr erlynwyr wedi gwneud y penderfynad iawn.

“Ein hymrwymiad i’r gwir ac i’r ffeithiau fydd yn penderfynu sut byddwn ni’n mynd ymlaen,” meddai.