Logo Lulzsec
Mae grŵp o hacwyr sydd wedi gwneud enw i’w hunain drwy ymosod ar gwmnïau adloniant mawr a’r FBI wedi cyhoeddi eu bod nhw’n mynd i roi’r gorau iddi.

Daeth cyhoeddiad LulzSec drwy eu cyfri ar wefan Twitter. Mae’r hacwyr wedi defnyddio’r cyfri er mwyn tynnu sylw at eu hunain wrth aros yn ddienw.

Mae diwedd y grŵp yn annisgwyl ac efallai yn arwydd fod y peryglon wedi mynd yn ormod wrth iddyn nhw ddenu rhagor o sylw’r awdurdodau.

Maen nhw’n honni eu bod nhw wedi ymosod ar wefannau’r FBI, y CIA, sawl un o wefannau cwmnïoedd mawr, a gwefan bornograffi.

Yn ôl LulzSec eu hunain, roedden nhw’n ymosod ar wefannau am yr hwyl o wneud hynny, yn hytrach nag unrhyw resymau moesol.

Cafodd Ryan Cleary, 19, o Wickford, Swydd Essex, ei arestio ddydd Llun yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan Scotland Yard a’r FBI i LulzSec.

Dywedodd Kevin Mitnick, arbenigwr ar ddiogelwch ar y we a cyn-haciwr, ei fod yn credu bod y grŵp wedi sylweddoli mai mater o amser oedd hi cyn iddyn nhw gael eu dal.

Roedden nhw wedi ysbrydoli grwpiau tebyg ym mhob cwr o’r byd, ac fe fyddai ymosodiadau tebyg yn parhau hyd yn oed heb LulzSec, meddai.

“Maen nhw’n gallu eistedd yn ôl nawr a gwylio’r cyfan heb y perygl o gael eu dal,” meddai Kevin Mitnick.