Wen Jiabao
Mae prif weinidog China, Wen Jiabao, wedi cynnig cefnogaeth ei wlad i’r ewro wrth i Ewrop frwydro i ddatrys yr argyfwng ariannol.

Dywedodd Wen Jiabao fod China yn fuddsoddwr hirdymor yn y farchnad ddyled sofran Ewropeaidd.

Ychwanegodd y byddai China yn cynnig “cefnogaeth gyson i Ewrop a’r ewro”.

Mae Wen Jiabao ar daith pum diwrnod yn Hwngari, Prydain a’r Almaen wrth i arweinwyr y gwledydd rheini geisio dod i gytundeb er mwyn datrys trafferthion Gwlad Groeg, Portiwgal ac eraill.

Bydd yn cyfarfod heddiw â Phrif Weinidog Hwngari, Viktor Orban, yn Budapest.

Ychwanegodd fod China yn fodlon prynu bondiau Hwngari, sydd ddim eto yn defnyddio’r ewro, a chynigiodd fenthyciad o €1 biliwn (£888.8 miliwn) i’r wlad.