Senedd Gwlad Groeg (Gerard McGovern CCA 2.5)
Fe fydd gwledydd yr Ewro’n rhoi rhagor o gymorth i geisio achub economi Gwlad Groeg.

Ond fydd gwledydd Prydain ddim yn gorfod cyfrannu, ar ôl i’r Prif Weinidog a’r Canghellor fynegi eu gwrthwynebiad.

Mewn cyfarfodydd ddoe, fe benderfynodd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd y byddai holl wledydd Parth yr Euro’n cyfrannu rhagor at becyn ariannol i Roeg.

Dadleuol

Ond, er y gallen nhw fod wedi ennill pleidlais i orfodi gwledydd o’r tu allan i’r Parth i gyfrannu, fe benderfynodd yr arweinwyr y byddai hynny’n rhy ddadleuol.

Roedd David Cameron a George Osborne wedi dadlau y dylai gwledydd yr Ewro ddelio gyda’u problemau eu hunain – er gwaetha’ cytundeb sy’n ymrwymo holl wledydd yr Undeb i helpu’i gilydd mewn amgylchiadau o’r fath.

Mae gwledydd Prydain eisoes yn cyfrannu tua €1 biliwn yn sicrwydd benthyciadau i’r Llywodraeth yn Athen.

‘Cefnogi’

Mae arweinwyr yr Undeb wedi galw ar y gwrthbleidiau yng Ngwlad Groeg i gefnogi’r pecyn gwerth £28 biliwn o doriadau sy’n cael ei orfodi arnyn nhw cyn derbyn yr arian.

Mae’n ymddangos bod pryderon hefyd y gallai’r wlad fethu’n llwyr gan wrthod talu ei dyledion.