Roedd dynes yn bwriadu defnyddio toiled symudol mewn gŵyl yoga yn nhalaith Colorado – cyn iddi godi’r clawr a gweld dyn yn cuddio yn y tanc oddi tanodd.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Boulder fod y ddynes wedi sylweddoli fod rhywbeth yn symud y tu mewn i’r tanc ac wedi gofyn i gyfaill gael golwg.

Gwelodd ei chyfaill rhywun wedi ei orchuddio gan darpolin y tu mewn i danc y tŷ bach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ŵyl fod y dyn, oedd yn ei 20au, wedi dringo allan o’r tŷ bach a ffoi oddi ynddo. Roedd wedi ei orchuddio â baw, medden nhw.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod nhw ar drywydd y dyn sy’n wynebu cael ei gyhuddo o ymgais at gyffwrdd rhywiol anghyfreithlon.