Fydd y pengwin ymerodrol sydd wedi nofio i draeth yn Seland Newydd ddim yn cael ei hedfan yn ôl i’r Antartig, cyhoeddwyd heddiw.

Mae penaethiaid bywyd gwyllt y wlad wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu “gadael i natur wneud ei waith” ar ôl i’r pengwin gyrraedd traeth Peka Peka ar yr ynysoedd gogleddol.

Dyma’r tro cyntaf i bengwin gwyllt gael ei weld yn Seland Newydd – sydd 2,000 milltir o’r Antartig – ers 44 mlynedd.

Dywedodd swyddogion bywyd gwyllt eu bod nhw’n pryderu y gallai’r pengwin fod wedi dal afiechyd wrth nofio drwy ddyfroedd cynhesach.

Doedden nhw ddim am ei drosglwyddo yn ôl rhag ofn ei fod yn cyflwyno’r afiechyd i weddill y pengwiniaid, meddai Peter Simpson o Adran Cadwraeth Seland Newydd.

Bwyta tywod

Mae’n dywyll drwy’r dydd yn yr Antartig ar hyn o bryd a does bron i neb yn teithio yno’r adeg yma o’r flwyddyn.

Doedd yna ddim ffordd hawdd o hedfan y pengwin tair troedfedd o daldra yn ôl i’r cyfandir wrth ei gadw yn oer ac yn wlyb.

Dywedodd swyddogion bywyd gwyllt fod y pengwin wedi bod yn bwyta tywod gwlyb, gan feddwl ei fod yn eira.

Roedd wedi bod yn bolaheulo ar y traeth yn ystod y dydd ond yn mynd i mewn i’r dŵr gyda’r nos.

“Rydyn ni yn mynd i ganiatáu i natur wneud ei waith,” meddai Peter Simpson. “Fe ddaeth yma ar ei ben ei hun. Beth sydd o’i le â hynny?”