George Papandreou
Mae Prif Weinidog Gwlad Groeg wedi goroesi pleidlais o ddiffyg hyder, wrth i’r llywodraeth geisio achub y wlad o’r trafferthion ariannol allai ledu i wledydd eraill yr ewro.
Pleidleisiodd Aelodau Seneddol o 155 i 143 o blaid cadw George Papandreou yn Brif Weinidog.
Mae yn wynebu pleidlais hollbwysig arall yr wythnos nesaf er mwyn dilysu y toriadau ariannol sydd eu hangen os yw Gwlad Groeg am dderbyn rhagor o nawdd rhyngwladol.
Bydd rhaid i’r wlad dorri gwerth £24.8 biliwn o wariant cyhoeddus yn ogystal â phreifateiddio gwerth £44.3 biliwn o asedau cyhoeddus.
Os nad yw’r senedd yn cytuno i’r newidiadau ni fydd Gwlad Groeg yn derbyn £10.6 biliwn o nawdd rhyngwladol ac ni fydd y wlad yn gallu talu ei dyledion ym mis Gorffennaf.
Os yw’r wlad yn rhedeg allan o arian fe allai chwalu ambell i fanc Ewropeaidd sydd wedi buddsoddi yn y wlad, yn ogystal â bygwth gwledydd eraill yn ardal yr ewro gan gynnwys Portiwgal, Iwerddon a Sbaen.
Er i bob Aelod Seneddol o’r blaid Sosialaidd gefnogi George Papandreou yn y bleidlais o ddiffyg hyder, dyw’r Prif Weinidog ddim wedi eu hargyhoeddi nhw i gefnogi’r toriadau ariannol eto.
Protestwyr
Mae’r toriadau a threthi newydd wedi arwain at streiciau, terfysg ar y strydoedd, a chwymp mawr yn ei boblogrwydd.
Ar ôl y bleidlais saethodd yr heddlu grenadau nwy at tua 200 o brotestwyr oedd yn taflu poteli i gyfeiriad Senedd Athens.
“Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i ddod a’r cyfnod anodd yma i ben a goroesi’r argyfwng,” meddai George Papandreou.
“Mae gennym ni gynllun, a gobaith at y dyfodol.
“Er gwaetha’r panig rydyn ni ar lwybr sydd wedi ei osod o flaen llaw, â chymorth y gymuned ryngwladol a’r benthyciadau mwyaf yn hanes y blaned hon.”