Cafodd Christine Wilton dipyn o sioc wrth gerdded ar hyd y traeth yn Seland Newydd. Yno, ar ei ben ei hun, roedd pengwin 10 mis oed.

Roedd Christine Wilton yn mynd â’i chi am dro ar draeth Peka Peka, ar arfordir Ynys y Gogledd, pan welodd hi’n creadur.

“Roedd yn beth anhygoel i’w weld… fel petai rywun wedi ei ollwng o’r awyr,” meddai. “Roedd yn gyfan gwbl allan o’i gynefin.”

Dim ond 10 mis oed yw’r pengwin ymerodrol, a 32 modfedd o daldra.

Yn ôl Colin Miskelly, o Amgueddfa Te Papa Seland Newydd, mae’n debyg bod yr aderyn wedi ei eni yn ystod y gaeaf diwethaf yr Antarctig.

Mae’n bosib ei fod yn dilyn creadur yr oedd yn gobeithio ei fwyta pan gollodd ei ffordd.

Y pengwin ymerodrol yw’r math mwyaf o bengwin yn y byd, ac fe all dyfu i bedwar troedfedd.

Creaduriaid caled

Cafodd taith hynod y pengwiniaid i’w safleoedd bwydo yn nyfnderoedd yr Arctig ei gofnodi yn y rhaglen ddogfen ‘March of the Penguins’ yn 2005.

Gall pengwiniaid ymerodrol dreulio misoedd yn y môr, gan ddod i’r lan er mwyn gorffwys, neu fwrw’u cot.

Yn ôl Peter Simpson o Adran Warchodaeth Seland Newydd, maen nhw wedi penderfynu mai’r peth gorau i’w wneud yw gadael y pengwin lle y mae o, er mwyn gweld a fydd yn goroesi.