Tripoli, Libya
Mae Nato wedi cyfaddef ei fod yn bosib bod un o’u hawyrennau wedi ymosod ar ardal breswyl ym mhrifddinas Libya, Tripoli, gan ladd nifer o ddinasyddion.

Mewn datganiad ar eu gwefan dywedodd Nato eu bod nhw’n drwgdybio fod un o’u taflegrau wedi mynd i’r cyfeiriad anghywir oherwydd problem dechnegol.

Honnodd llywodraeth Libya fod naw o bobol wedi eu lladd yn oriau man y bore ddydd Sul.

Ar ôl treulio’ rhan fwyaf o’r diwrnod yn dweud eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater cyfaddefodd Nato ei fod yn bosib maen nhw oedd yn gyfrifol.

“Mae Nato yn ceisio osgoi lladd pobol ddiniwed ac yn ofalus iawn wrth ymosod ar y llywodraeth yma sy’n benderfynol o ddefnyddio trais yn erbyn pobol Libya,” meddai’r Is-Gadfridog Charles Bouchard.

“Rydyn ni’n parhau i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ond yr awgrym yw mai methiant yn ein system arfau achosodd hyn i ddigwydd.”

Dyw Nato heb ddatgelu’r wlad oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ond dywedodd y Weinyddiaeth Ymosod nad oedd awyrennau Prydeinig yn yr ardal ar y pryd.

Dywedodd llywodraeth Libya fod naw o bobol wedi eu lladd yr ymosodiad, gan gynnwys dau o blant. Mynnodd y llywodraeth fod yr ymosodiad yn un “bwriadol”.