Mae Husmiya yn HIV positif
Mae Malan Vaughan Wilkinson, un o ohebwyr Golwg360, wedi mynd i Tajikistan…

Mewn unrhyw wlad, mae HIV Aids yn eiriau sy’n bwydo ofn, stigma ac yn rhannu cymdeithas.

Heddiw cefais gyfle i siarad â merched HIV positif am eu profiadau o fyw gyda’r haint.

Roedd un ohonynt wedi ei thaflu o’i chartref a’i gwrthod gan ei mam ei hun, ac wedi ei gwahardd rhag gweld ei phlentyn.

Mi fu i Husmiya geisio lladd ei hun oherwydd ei chyflwr.

Cefais hefyd wybod mwy am y cymorth maen nhw’n ei dderbyn gan Ganolfan Iechyd Meddwl a HIV/Aids ym mhrif ddinas Tajikistan, Dushanbe.

Mae’r ganolfan yn derbyn cefnogaeth gan Gymorth Cristnogol yng nghanolbarth Asia.

Maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith arloesol yn ceisio lleihau’r stigma sy’n perthyn i ddioddefwyr HIV, yn gweithio gyda staff meddygol, arweinwyr crefyddol Mwslim yn y gymuned ac yn hyfforddi newyddiadurwyr i geisio atal gwybodaeth negyddol am yr haint yn y wasg.

Mae HIV yn broblem sydd ar gynnydd yn Tajikistan ar hyn o bryd, oherwydd cam-ddefnydd cyffuriau a nifer uchel y gweithwyr sy’n gadael eu teuluoedd a’r wlad i fynd i lafurio yn Rwsia gyfagos, cyn dychwelyd gyda’r haint.

Mae’r Ganolfan yn cynnig cymorth seicolegol ac ymarferol i ddioddefwyr.

‘Fe wnes i geisio lladd fy hun’

Fe gafodd Husmiya wybod ei bod yn HIV positif dair blynedd yn ôl ar ôl cael profion meddygol ar gyfer mynd dramor. Roedd eisiau symud i Rwsia i fyw a gweithio ac roedd prawf gwaed meddygol yn orfodol fel rhan o’r broses.

“Pan glywais i am fy statws, fe wnes i geisio lladd fy hun,” meddai’r ferch ifanc, swil yr olwg.

“Y person cyntaf i glywed am fy statws oedd mam. Fe ges i fy nghicio allan o’r tŷ. Doedd hi ddim yn gadael i mi gymryd bath na defnyddio’r lle chwech. Doedd gen i ddim ffordd arall allan – dyna pam wnes i geisio lladd fy hun,” meddai.

Mae gan Husmiya fab wyth oed – ond ei mam sy’n edrych ar ei ôl bellach. “Dydi mam ddim yn gadael i mi edrych ar ôl fy mab.  Ond, weithiau, dw i’n mynd yn ddistaw bach i’w weld…fel lleidr bron,” meddai wrth i’w llygaid lenwi.

‘Person marw’

“Pan glywais i am fy statws – am dair blynedd roeddwn i’n byw fel person marw – tan i mi ddod i wybod am y Ganolfan hon,” meddai Husmiya. Mae’r Ganolfan yn cynnig bwyd, moddion a chymorth seicolegol i bobl sy’n byw gyda HIV.

Ar hyn o bryd, mae Husmiya yn byw gyda’i ffrind, yn gofalu am blant ei ffrind ac yn glanhau ei thŷ. “Pan glywais i am y ganolfan, fe ddois i yma a derbyn cefnogaeth gan y rheolwraig.

“Roedd fy nghorff i mewn cyflwr marwaidd cyn dod yma. Roedd rhannau o fy nghorff wedi chwyddo pob dydd. Ond, fe wnaethon nhw drefnu mod i’n mynd i glinig am lawdriniaethau a rhoi cyngor i mi ar ba gyffuriau i’w ddefnyddio. Dw i eisiau pwysleisio eu bod nhw wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi.”

‘Teimlo fel dynes’

“Rŵan, dw i’n edrych yn y drych, yn cymryd gofal ohonof i’n hun, fy ngwallt a cholur. Dw i’n teimlo fel dynes unwaith eto,” meddai Husmiya gan ddweud bod y Ganolfan wedi’i chyflogi fel gwirfoddolwr ac yn talu’i chostau teithio ers mis a hanner.

“Fe wnaeth siarad gyda merched eraill oedd yn mynd drwy’r un peth fy helpu. Fe wnes i ddeall nad oeddwn i ar ben fy hun. Efallai mewn pedair blynedd y byddai farw. Ond, mae gen i blentyn ac fe ddylwn i feddwl amdano.

“Dw i eisiau dweud wrth bobl ifanc sy’n HIV positif i beidio â bod ofn…nid dyma’r diwedd,” meddai, cyn dweud nad oedd llawer o wybodaeth am yr haint ganddi cyn ymweld â’r clinig.

Mae Husmiya wedi methu datgelu ei statws HIV i’r ffrind y mae’n byw gyda hi. Mae’n ofni y byddai hi’n cau’r drws arni, fel gwnaeth ei mam, pe bydda’ hi’n gwybod y gwir.

Roedd mam-yng-nghyfraith merch arall – Dilfuzia, 33 oed, oedd yn byw yn Uzbekistan ar y pryd – wedi ei gwahardd o’r gegin ar ôl darganfod ei bod yn HIV positif yn 2007.

Roedd y fam-yng-nghyfraith (a oedd yn feddyg wrth ei gwaith) hefyd wedi ei gorfodi i fwyta ar wahân i weddill y teulu a defnyddio llestri gwahanol mewn ystafell ar wahân, meddai Dilfuzia, sy’n dweud mai bwyd dros ben yr oedd yn ei gael “fel ci” amser bwyd.

Dagrau a dewrder

Roedd siarad gyda’r merched heddiw yn brofiad arbennig. Roedden nhw mor swil ar un llaw, ac eto yn onest a dewr. Ar fwy nag un achlysur, roeddwn i’n cwffio dagrau.

Roedd eu straeon ingol yn dweud rhywbeth  ehangach am natur y cyflwr dynol.

Mewn ‘stafell fach gyffredin ym mwrlwm dinas Dushanbe heddiw, sylwais, ymhell o adref, bod modd goresgyn ofn hyd yn oed yn oed yn y llefydd tywyllaf, fel yr oedd y merched hyn wedi’i wneud.

Mae cymorth a chefnogaeth y Ganolfan Iechyd Meddwl a HIV Aids wedi dod a’r merched hyn yn ôl o erchwyn y dibyn tywyllaf. HIV neu beidio – yng ngeiriau Husmiya fu ar ymyl yr union ddibyn tywyll hwnnw – “nid dyma’r diwedd”.