Mae gohebydd Golwg 360, Malan Wilkinson, wedi teithio gyda Cymorth Cristnogol i Tajikistan am wythnos. Dyma’i hargraffiadau diweddaraf o’r wlad dlawd yng nghanolbarth Asia…

Mae’n anodd credu bod tri diwrnod o daith Tajikistan wedi mynd heibio yn barod.  Yn yr amser hynny, ‘dw  i wedi teithio tua 1,000 o filltiroedd yn y car – drwy bentrefi, dinasoedd, tir anial, drwy rhai ardaloedd anghysbell a mynyddig.

Drwy ffenestr y car – ‘dw i wedi cael cyfle euraid i weld y wlad a’i phobl yn byw o ddydd i ddydd ac, mae’r cyfan wedi creu dipyn o argraff arna i. Dyma ddarlun o’r wlad – drwy’r ffenestr.

‘Sofiet’

Mae hen adeiladau mawreddog  a phensaernïaeth oes Sofiet i’w weld ym mhob man yma.

Mae blociau mawr o fflatiau unfath wedi’u hesgeleuso ac yn cartrefu’r tlawd ar gyrion Dushanbe, Prif Ddinas Tajikistan. Golygfa gyffredin arall yw ffatrïoedd enfawr gwag ar ochr ffyrdd. Mae hen faes chwarae ar gyrion y ddinas gyda reidiau ffair ac olwyn fawr las wedi pydru – yn adfail bellach.

‘Dw i’n teimlo’r hiraeth wrth edrych ar yr adeiladau a’r strwythurau hyn.  Adeiladau moethus yn eu dydd – ond bellach wedi hen dyddio ac yn atgof blinedig o ‘oes aur’ dylanwad Sofiet yma cyn i’r undeb ddymchwel yn ‘91.

Golygfa gyffredin arall ar hyd ffyrdd y wlad yw’r hen geir Rwsieg Lada – yn bob lliw a llun, gydag ambell ddrws neu fŵt car yn ddigon simsan.

Ond, ble bynnag dw i’n troi, hyd yn oed yn y Brif Ddinas – mae tlodi â slymiau gyda phobl mewn ambell i le yn defnyddio systemau draenio i olchi’u dwylo, llestri ac ambell ddilledyn.


Merched a ffasiwn

Mae merched Tajik i’w gweld wrth eu gwaith yn gwisgo’r wisg draddodiadol. Topiau lliwgar, di siâp, patrymog llawes hir gyda throwsusau hir o’r un defnydd. Maen nhw’n gwisgo sgarffiau yn eu gwalltiau ac esgidiau defnydd fflat cenedlaethol i fynd â’r wisg. Mae llawer o’r merched ‘dw i wedi’i gyfarfod yn raslon – ond swil.

Arfer cyffredin arall ymysg merched Tajik yw cysylltu eu haeliau gyda phensel ddu iddo edrych fel un ael hir. Mae hynny’n cael ei ystyried yn rywbeth hardd.

Ond, dirgelwch mawr i mi am beth amser oedd deall pam bod cynifer o ferched a dynion â llond ceg o ddannedd aur!  Doeddwn i’n methu’n glir a deall y peth. Roedd rhai pobl gyda haen uchaf o ddannedd aur, eraill â’r haen isaf, rhai gydag ambell i ddaint aur yn unig ac eraill gyda llond ceg o aur. Dyma ddeall ddoe mai ffasiwn amser sofiet sy’n gyfrifol am ddannedd aur pobl Tajikistan!


Teithio i’r de

Wrth deithio i’r de tua ffin Afghanistan – mae’r dirwedd yn newid yn llwyr. O wyrddni ochrau Dushanbe i dir tywodlyd llwyd frown.

Mae llwydni ac amlinell lyfn y tir yn f’atgoffa o’r delweddau tir anial, di orwel yr ydan ni’n ei weld o Afghanistan ar y newyddion.

Mae bechgyn i’w gweld yng nghanol unlle ar gefn asynnod yn tynnu llwythi neu’n bugeilio. ‘Dw i’n cael yr argraff eu bod nhw’n hen gyfarwydd â llwybrau hir y daith.

Mae hogiau ifanc eraill yn sefyll ar gyrion ffyrdd yn chwifio poteli plastig gwag i’r awyr ac ar yrwyr – eisiau dŵr.

Mae asynnod, buchod a chwn yn croesi ffyrdd gwledig pan fynnent – a gyrwyr ceir yn canu cyrn yn ddi-baid  i’w dychryn  i’r cyfeiriad arall.

Mae masnachwyr i’w gweld ar hyd y ffordd yn gwerthu melonau, tomatos, ciwcymbr a mêl a thrigolion i’w gweld yn golchi ffrwythau a llysiau mewn dŵr afon budr.

A hithau’n 43 gradd selsiws, mae dynion a bechgyn yn nofio mewn afonydd. Ond ers dechrau fy nhaith, ‘dw i heb weld merch yn nofio yn yr awyr agored. Os yw merch am wneud, mae’n debyg bod raid iddi wisgo ffrog laes.

Wrth eistedd ar falconi yn nhywyllwch y nos yn edrych ar oleuadau’r ddinas yn sgrifennu f’argraffiadau – mae’n hawdd anghofio am y tlodi am eiliad.

Mae ychydig o olau stryd yn dangos dyn sydd wedi stopio yn ei unfan ac yn gweddïo i gyfeiriad mecca, mae cŵn i’w clywed yn cyfarth ar y stryd a phlant yn chwarae pêl fasged gyferbyn.

Yr  hyn sy’n fy nharo am bobl Tajikistan yw eu cryfder, eu hysbryd a’u dyfalbarhad . Yn wyneb yr holl sialensiau dyddiol a thlodi,  maen nhw’n cario mlaen, yn dal i obeithio ac yn gweithio am fywyd gwell.

Cyn ymweld â’r wlad – doeddwn i heb glywed am ei bodolaeth. Mae’n anodd dychmygu hyn bellach – mae’r bobl dw i wedi’u cyfarfod yma wedi fy nghyffwrdd a’r profiad  wedi fy llorio.