Bu’n rhaid mynd a 77 o gadlanciau o Lu Awyr yr Unol Daleithiau i’r ysbyty ar ôl i feltten daro canolfan hyfforddi yn ne talaith Mississippi.
Roedd darpar-beilotiaid o bob cwr o’r wlad yn gwesrylla mewn pebyll yn y ganolfan am bythefnos, meddai’r Uwch-gapten Deidre Musgrave.
Aethpwyd a pob un ohonyn nhw i’r ysbyty ar ôl i felten daro polyn trydan ger y cae yr oedden nhw i gyd yn gwersylla ynddi.
Camp Shelby ger Hattiesburg ydi canolfan hyfforddi milwrol mwyaf y wlad.
Mae’r 136,000 acr yn cynnwys dinasoedd ffug sydd wedi eu seilio ar Irac ac Afghansiatan er mwyn rhoi cyfle i filwyr brofi sut beth fyddai bod yno