Davlatnigor
Mae gohebydd Golwg 360, Malan Wilkinson, wedi teithio â Cymorth Cristnogol i Tajikistan am wythnos. Dyma’r diweddaraf o’i blogiadau dyddiol o’r wlad dlawd yng nghanolbarth Asia…

Heddiw, fe ges i’r fraint o gyfweld dynes arbennig sy’n fam i bump o blant, yn athrawes ers dros ddau ddegawd ac yn aelod o bwyllgor cymuned sy’n ceisio datrys problemau ar lefel leol gan wella’r ddarpariaeth yn ei chymuned.

Mae Davlatnigor yn byw ym mhentref Pomir, ardal Khoja Maston – pentref bychan gwledig a  thlawd – tua dwy awr o Brif Ddinas, Tajikistan, Dushanbe.

Athrawes sy’n fam i dair o ferched a dau o fechgyn yw Davlatingor – sy’n gweithio’n ddiwyd fel aelod o bwyllgor cymuned yr ardal yn trefnu digwyddiadau, cynnal a cheisio gwella darpariaeth yn y gymuned.

Heddiw, fe soniodd am ei phryderon ar gyfer dyfodol  ei phlant, y problemau sy’n wynebu ei phentref  a’i gobeithion ar gyfer  dyfodol Tajikistan.

Mae Davlatingor wedi bod yn athrawes ers 24 mlynedd. Ond, yn ogystal â dysgu – i ddal dau ben llinyn ynghyd a chynnal ei theulu –  mae’n gweithio yn y caeau gyda’r nos yn tyfu bricyll, cotwm, tomatos, ciwcymbr, afalau, corn  a thatws.

Mae’r teulu’n gwerthu peth o’r cynnyrch er mwyn dod ag incwm ychwanegol i’r cartref. Maen nhw hefyd yn cadw anifeiliaid, yn fuchod, defaid ac ieir.


“Pryderu”

Mae’n debyg bod tua 2 filiwn o boblogaeth Tajikistan (y mwyafrif yn ddynion) wedi  symud i Rwsia  i weithio mewn meysydd megis adeiladu – gan fod prinder gwaith difrifol a chyflogau gwael yn Nhajikistan. Mae Davlatnigor yn gobeithio nad dyma fydd hanes ei mab.

Yn sgil hyn, mae’n gyffredin i wragedd beidio gweld eu gŵyr am flynyddoedd lawer, rhwng 3-8 mlynedd, yn ôl aelodau o bwyllgor cymuned Pomir.

Fe ddywedodd Davlatnigor nad oedd cwmnïau yn Rwsia’n dod i’r wlad recriwtio bechgyn ifanc i weithio yno – ond bod hogiau’n mynd yno oherwydd bod “rhwydwaith” a chysylltiad yn bodoli eisoes ers cyfnod yr oes Sofietaidd.

“Dw i’n pryderu am ddyfodol fy mhlant,” meddai Davlatnigor wrth son am y system addysg bresennol yn Nhajikistan ynghyd ag arfer bechgyn ifanc i adael yr ysgol i lafurio am gyflog yn Rwsia.

“Nid yw plant yn gallu fforddio parhau â’u haddysg ar ôl gorffen yr ysgol,” meddai gan ddweud bod ei mab a’i fryd ar fynd i goleg meddygol – ond fod y costau’n ddrud.

“Dw i eisiau i’m mab barhau â’i addysg. Dw i’n trio casglu arian  ond mae’n anodd. Os ydi o’n mynd i Rwsia – ni fedr o barhau a’i addysg yn y dyfodol,” meddai.

Mae sefyllfa ariannol y teulu dan ragor o bwysau oherwydd nad yw gŵr Davlatnigor yn gallu gweithio. Mae’n anabl ar ôl gwasanaethu gyda’r fyddin yn Chernobyl. Roedd yn symud pobl o ardal y trychineb i ardal arall y tu allan.


Pwyllgor cymuned

Mae Davlatnigor hefyd yn aelod o bwyllgor cymuned yr ardal sy’n cael ei gefnogi’n ariannol  gan Gymorth Cristnogol. Ei gŵr yw cadeirydd y Pwyllgor.

Mae’r pwyllgor wedi llwyddo sortio sawl problem gymunedol drwy gyfarfod a sgwrsio – pethau fel glanhau’r  draeniau am dri chilometr â glanhau a ffensio mynwentydd. Maen nhw hefyd wedi sefydlu grŵp ‘cymorth i unigolion’ yn y pentre’ ac yn cynnal gweithgareddau hamdden yn ystod gwyliau cenedlaethol ynghyd ag ymgyrch  16 diwrnod yn erbyn trais.

TB

Ond, nid yw’r pwyllgor wedi medru dod a phibell dŵr i’r pentref ac mae TB yn broblem enfawr yn y gymuned gyda 70% o’r trigolion lleol yn ddioddef o’r salwch.

Fe ddywedodd fod pobl y pentref yn defnyddio dŵr y pentref nesaf. Ond, fod y dŵr hwnnw’n fudr ar ôl i bobl olchi’u carpedi ynddo a thaflu anifeiliaid wedi marw i mewn iddo.

Yn ystod y gaeaf , mae’n  rhaid i’r pentrefwyr deithio cymaint â thri chilomedr i nôl dŵr – cyn troi’n ôl a theithio tri chilomedr adref. Nod y pwyllgor yn y dyfodol yw ceisio datrys y sefyllfa dwr, meddai.

Mae’ pwyllgor eisoes wedi ymgeisio am grantiau, ond yn parhau i fethu fforddio costau  cwmnïau.

Ond, mae Davlatnigor yn mynnu bod bodolaeth y pwyllgor wedi cael effaith gadarnhaol ar gymuned Pomir.

‘Gobeithio’

“Pan rydan ni’n dod at ein gilydd, rydan ni’n trafod ein problemau ac yn ceisio eu datrys. Mae pawb yn gwybod am broblemau pawb ac rydan ni’n cefnogi’n gilydd – er enghraifft os ydi rhywun yn sâl iawn, rydan ni’n casglu arian i helpu’r person,” meddai.

“Cyn i’r pwyllgor ddod i fodolaeth –  roedd pawb yn edrych ar eu hôl eu hunain.

“Mae gan bobl arian nawr i ddatblygu busnesau ac rydan ni’n trefnu cystadlaethau chwaraeon ar gyfer pobl ifanc yn ogystal ag ymgyrchu i geisio atal problemau HIV,” meddai.

“Dw i’n gobeithio dod a dŵr yfed yma yn y dyfodol hefyd. ‘Dw i’n gobeithio y bydd Tajikistan yn datblygu fel gwlad – yn arbennig yr ardaloedd anghysbell ac y caiff pobl fywyd gwell.”