Banc Gwlad Groeg
Mae Prif Weinidog Gwlad Groeg wedi dweud y bydd yn cynnal refferendwm ar ragor o doriadau llym i wariant cyhoeddus yn y wlad.

Dywed fod lleihau’r diffyg ariannol yn hanfodol os yw’r wlad am barhau i dderbyn nawdd gan wledydd eraill ond mae protestio mawr yn y wlad yn erbyn unrhyw doriadau pellach.

“Rydw i’n barod i gynnal refferendwm ar y newidiadau mawr yr ydym ni yn bwriadu eu cyflawni, er mwyn cael caniatâd y bobol,” meddai George Papandreou.

Mae’r Prif Weinidog yn wynebu gwrthryfel o fewn ei Gabinet ei hun, yn ogystal â llid pobol y wlad, ar ôl i flwyddyn o doriadau llym fethu a lleihau digon ar y diffyg ariannol.

Miloedd yn protestio

Mae miloedd o bobol wedi bod yn protestio y tu allan i’r Senedd yn Athens bob nos ers tua phythefnos.

Mae’r llywodraeth bellach yn bwriadu torri €6.4 biliwn eleni (£5.7 biliwn) a €22 biliwn (19.6 biliwn) arall erbyn 2015.

Bydd rhaid cyflawni’r toriadau os yw Gwlad Groeg am barhau i dderbyn benthyciad gwerth €110 biliwn (£98.2 biliwn) gan y Gronfa Arian Ryngwladol a gwledydd eraill yr Ewro.