Difrod yn dilyn y daeargryn ym mis Chwefror
Cafodd dinas Christchurch yn Seland Newydd ei tharo gan ddaeargryn bach arall heddiw.

Does yna ddim adroddiadau ynglŷn â difrod mawr neu anafiadau, ond roedd yn ddigon cryf i daro nwyddau o silffoedd siopau.

Dywedodd Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau fod y daeargryn 5.5 ar y raddfa Richter wedi taro 14 milltir i’r gorllewin o’r ddinas, a dwy filltir o dan y ddaear.

Mae’r ddinas wedi ei tharo gan sawl daeargryn llai ar ôl y daeargryn anferthym mis Chwefror, a laddodd 181 o bobol.

Y daeargryn ym mis Chwefror oedd trychineb naturiol drutaf y wlad, gan gostio tua $15 biliwn.