Pacistan
Mae heddlu Pacistan wedi cadarnhau fod bom wedi ffrwydro mewn safle bws yng ngogledd orllewin y wlad, gan ladd chwech o bobol.

Y ffrwydriad yn ardal Matani yw’r drosedd ddiweddara’ yn y wlad ers lladd Osama Bin Laden gan luoedd yr Unol Daleithiau ar Fai 2.

Daw hefyd ar ôl adroddiadau ddoe fod un arall o arweinwyr Al-Qaida wedi ei ladd yn y wlad, sef Ilyas Kashmiri.

Mae’r heddlu sydd wedi cadarnhau’r marwolaethau yn dweud i ddeg o bobol gael eu hanafu hefyd gan ffrwydriad heddiw.

Dydi’r swyddogion ddim wedi cadarnhau eto p’un ai oedd y bom wedi ei gosod ar y safle, ynteu ai hunanfomiwr oedd yn gyfrifol am y ffrwydriad.