Protestiadau democratiaeth, Cairo, eleni
Mae cyn-weinidog cyllid Yr Aifft wedi ei ddedfrydu i 30 mlynedd yng ngharchar.

Er nad oedd Yousef Boutros-Ghali yn y llys, mae nai i gyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Boutros Boutros-Ghali, wedi ei ddedfrydu yn ei absenoldeb.

Roedd Yousef Boutros-Ghali yn un o gefnogwyr ffyddlonaf y cyn-Arlywydd, Hosni Mubarak, a gadawodd y wlad yn ystod y protestiadau eleni yng Nghairo a lwyddodd i ddymchwel llywodraeth unbeniaethol Yr Aifft.

Does neb i weld yn gwybod yn iawn lle mae Yousef Boutros-Ghali bellach yn byw.

Ond mae llys yng Nghairo heddiw wedi ei gael yn euog o ddau gyhuddiad – y cyntaf o gael gafael ar gerbydau moethus trwy ddulliau twyllodrus, a’r llall o gamddefnyddio ei awdurdod i argraffu deunydd ymgyrchu ar gyfer etholiad.

Cafodd ei ddedfrydu i 15 mlynedd yr un, a’i orchymyn i dalu dirwy o £3.6m.