Wagen fforch godi (nid yr un a ddefnyddwyd)
Mae heddlu yn yr Unol Daleithiau wedi cyhuddo dyn o ymosod ar ôl iddo godi car ei gariad i fyny gyda wagen fforch godi a’i gario sawl troedfedd cyn ei ollwng.
Roedd ei gariad y tu mewn i’r car ar y pryd.
Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Springfeld, Massachusetts, fod Brian Hurley wedi ei gyhuddo o ymosod a churo gan ddefnyddio arf peryglus.
Ychwanegodd fod y dyn 41 oed a’i gariad wedi dadlau dros arian wrth iddi ei yrru i’w waith mewn warws fore dydd Sadwrn.
Dywedodd hi fod y dyn wedi ei tharo, wedi gadael y car a’i gicio, ac yna wedi mynd i nôl y wagen fforch godi.
Ffodd ar ôl yr ymosodiad honedig ond daethpwyd o hyd iddo yn ei gartref ychydig oriau’n ddiweddarach.