Ratko Mladic (Evstefiev Mikhail CCA 3.0)
Mae cyn-gadlywydd byddin Bosnia, Ratko Mladic, wedi ei gadw yn un o garchardai’r Cenhedloedd Unedig wedi ei gyhuddo o hil-laddiad.

Cafodd ei estraddodi o  Belgrade ar awyren sy’n eiddo i lywodraeth Serbia ddoe, ar ôl cael ei ddal yn cuddio yn nhŷ perthynas ddydd Iau.

Mae bellach yn 16 mlynedd ers iddo gael ei gyhuddo o ladd 8,000 o bobol Fwslimaidd yn y gyflafan fwyaf o’i fath yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd Ratko Mladic wybod beth oedd y cyhuddiadau yn ei erbyn, cyn cael ei roi dan glo dros nos, meddai llefarydd ar ran y tribiwnlys troseddau rhyfel.

Fe fydd hefyd yn cael ei archwilio gan ddoctor a derbyn unrhyw driniaeth sydd ei angen arno, meddai.

Nid yw’n amlwg eto pryd y bydd Ratko Mladic yn ymddangos o flaen llys am y tro cyntaf, ond bydd rhaid i hynny ddigwydd o fewn ychydig ddyddiau.

Bryd hynny fe fydd rhaid iddo gadarnhau ei enw a dweud a yw’n pleidio’n euog neu yn ddieuog i bob un o’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Fel ei fos Radovan Karadzic fe allai Ratko Mladic wrthod pledio’r naill ffordd i’r cyhuddiadau yn ei erbyn, gan oedi’r achos llys.

Mae’r achos yn erbyn Radovan Karadzic yn parhau i lusgo ymlaen.

Mae Ratko Mladic eisoes wedi dweud nad yw’n adnabod awdurdod tribiwnlys y Cenhedloedd Unedig.