Ratko Mladic yn yr 1990au
Fydd yr arweinydd milwrol, Ratko Mladic, ddim yn byw yn ddigon hir i ddod gerbron llys rhyngwladol, meddai ei gyfreithwyr.
Ond mae’r erlyniad yn cyhuddo’r Serbiad o geisio gwastraffu amser rhag iddo sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o droseddau rhyfel a hil laddiad, gan gynnwys rhoi’r gorchymyn i ladd 8,000 o bobol yn Srebrenica.
Mae cyfreithwyr Mladic wedi gofyn am i’r cyn gadfridog 69 oed gael ei archwilio gan dimau o feddygon, gan ddweud ei fod yn ddifrifol wael.
Protestiadau
Ddoe, roedd miloedd o bobol yn protestio o’i blaid ym mhrifddinas Serbia, Belgrade. Roedden nhw’n canu caneuon a chwifio baneri i’w gefnogi ac, yn ôl adroddiadau oddi yno, roedd rhai’n gweiddi sloganau eithafol asgell dde.
Ratko Mladic oedd arweinydd lluoedd Serbia a Bosnia yn y rhyfeloedd gwaedlyd ar ddechrau’r 1990au yn yr hen Iwgoslafia. Mae wedi bod ar ffo ers bron 16 o flynyddoedd.
Mae’n cael ei gyhuddo hefyd o fod yn gyfrifol am warchae Sarajevo ond, yn llygaid rhai yn Serbia, mae’n arwr.
Roedden nhw’n protestio y tu allan i senedd y wlad yn galw am ei ryddhau.