Harold Camping
Mae pregethwr o California oedd wedi proffwydo y byddai diwedd y byd yn digwydd ddydd Sadwrn, wedi newid y dyddiad unwaith eto.

Roedd Harold Camping wedi dweud wrth filoedd o’i ddilynwyr y byddai’r byd yn dod i ben ar 21 Mai, ac y byddai 200 miliwn o Gristnogion yn esgyn i’r Nefoedd.

Mae bellach yn mynnu ei fod wedi gwneud camgymeriad ac mai ar 21 Hydref y bydd y byd yn dod i ben.

Cyfaddefodd ei fod yn teimlo’n chwithig ar ôl i’w broffwydoliaeth cyntaf fethu, a’i fod wedi ffoi ei gartref a symud i fyw mewn gwesty gyda’i wraig.

Roedd ei weinidogaeth, Family Radio International, wedi gwario miliynau – rhan helaeth ohono yn roddion gan ei ddilynwyr – ar tua 5,000 o hysbysebion oedd yn proffwydo diwedd y byd.

Ond dywedodd Harold Camping ei fod bellach wedi sylweddoli y byddai diwedd y byd yn cyrraedd pum mis ar ôl ei ddyddiad gwreiddiol, sef 21 Mai.

Roedd wedi dweud ynghynt y byddai’r byd yn dod i ben i weddill y ddynoliaeth ar 21 Hydref, pum mis ar ôl i’r holl Gristnogion esgyn i’r nefoedd.

Nid dyma’r tro cyntaf i Harold Camping wneud camgymeriad wrth broffwydo diwedd y byd. Roedd wedi dweud y byddai’n digwydd yn 1994, cyn i’r dyddiad hwnnw fynd a dod.

Aros ar ôl

Dywedodd Tim LaHaye, awdur cyfres nofelau poblogaidd Left Behind am ddiwedd y byd, fod Harold Camping yn “100% anghywir” am ddiwedd y byd.

Cyfeiriodd at Mathew 24:36 yn y Beibl sy’n dweud: “”Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o’r dydd y bydd hyn yn digwydd. Dydy’r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun.”

“Mae yna nifer o arwyddion y bydd diwedd y byd yn y dyfodol agos, ond mae’n amhosib i unrhyw un wybod y dyddiad y bydd yn digwydd,” meddai Tim LaHaye ar ei wefan.