Protestiadau yn Bahrain fis Chwefror.
Mae David Cameron wedi annog Tywysog Bahrain i “gofleidio diwygiad yn hytrach na gormes” yn dilyn protestiadau o blaid democratiaeth yn y wlad.
Roedd Prif Weinidog Llywodraeth Prydain wedi pledio gyda Sheikh Salman bin Hamad al-Khalifa yn ystod ymweliad y tywysog â 10 Stryd Downing yn Llundain.
Fe ddaw’r alwad wrth i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, ddatgan cefnogaeth i’r protestiadau yn y gwledydd Arabaidd dros y misoedd diwethaf.
Yn ôl llefarydd yn Stryd Downing roedd David Cameron wedi codi pryderon gyda’r tywysog ynglŷn â’r sefyllfa yn Bahrain.
Mae Bahrain wedi cael ei chondemnio am ofyn i Saudi Arabia anfon milwyr i’r wlad er mwyn helpu atal y protestiadau.
Fe ddaw ymweliad y Tywysog â Llundain wedi iddo wrthod gwahoddiad i briodas y Tywysog William a Kate Middleton fis diwethaf oherwydd pryderon y gallai protestiadau yn erbyn ei bresenoldeb effeithio ar y digwyddiad.
Bu farw o leia’ 29 o bobl mewn protestiadau yn Bahrain ers i bobl ddechrau galw am ddiwygiadau gwleidyddol yn gynharach yn y flwyddyn.