Mae cae llawn melonau dŵr wedi ffrwydro yn China, ar ôl i ffermwyr fwydo gormod o gemegion tyfu iddyn nhw yn ystod tywydd gwlyb.

Cafodd 115 o erwau o felon o gwmpas dinas Danyang eu difetha, gan effeithio ar 20 o ffermwyr.

Roedd pob un o’r ffermwyr wedi defnyddio’r cemegyn forchlorenuron, a hynny am y tro cyntaf eleni, er ei fod ar gael ers peth amser yn China.

Mae’n debyg bod y ffermwyr wedi cyflwyno’r cemegyn i’r cae yn ystod tywydd gwlyb iawn, ac yn llawer rhy hwyr yn y tymor – a hynny mae’n debyg a achosodd y melonau i ffrwydro.

Mae cynnydd ym mhris melonau dŵr dros y flwyddyn ddiwethaf wedi ysgogi llawer o ffermwyr China i ddechrau tyfu melonau.

Camddefnyddio cemegion

Mae awdurdidau China yn caniatau defnyddio’r cemegyn forchlorenuron er mwyn hyrwyddo tyfiant, ac mae’n cael ei ddefnyddio yn yr Unol Daealethau ar ffrwythau kiwi a grawnwyn.

Ond mae’r adroddiad yn tanlinellu arfer sy’n gyffredin yn China o gamddefnyddio cemegion cyfreithlon, ac anghyfreithlon.

Mae llawer o ffermydd hefyd yn camddefnyddio chwyn laddwyr a gwrtaith ar eu cnydau.

‘Cyllell i’r galon’

Dywedodd un ffermwr a welodd ei ffrwythau’n ffrwydro fod y cyfan yn teimlo fel “cyllell drwy’r galon”.

“Ar 7 Mai, fe ddois i allan a chyfri 80 o ffrywythau wedi ffrwydro,” meddai Liu Minguso, “ond erbyn y prynhawn roedd yna 100 wedi mynd. Deuddydd yn ddiweddarach fe roiais i’r gorau i gyfri.”

Roedd rhai o’r melonau dŵr a oedd yn dal yn gyfan yn cael eu gwerthu mewn marchnadoedd ger Shanghai, ond roedd hyd yn oed y rhei’ny yn dangos ôl y forchlorfenuron.

Roedd rhai o’r ffrwythau wedi eu hanffurfio, a nifer yn cynnwys hadau gwyn yn lle rhai du.

Mae’r llywodraeth wedi rhybuddio yn erbyn gorddefnyddio cemegion ar fwyd gan gynhyrchwyr a gwerthwyr yn y wlad.