Playstation 3
Mae Sony wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu adfer rhwydwaith PlayStation erbyn diwedd mis Mai ar ôl gorfod ei gau i lawr wedi ei fanylion personol miloedd o gwsmeriaid gael eu dwyn.

Llwyddodd hacwyr i gael gafael ar fanylion personol miliynau o bobol sy’n chwarae PlayStation ar rwydwaith Sony ym mis Ebrill.

Dywedodd Satoshi Fukuoka, llefarydd ar ran cwmni Sony fod y cwmni’n ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd, ond nad oedd unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.

Mae yna bryder fod hacwyr wedi cael gafael ar gyfrineiriau a manylion cardiau credyd tair miliwn o bobol yng ngwledydd Prydain a 100 miliwn ledled y byd.

Maen Sony wedi cyhoeddi neges yn ymddiheuro i ddefnyddwyr gan ddweud y byddan nhw’n gyrru e-bost i’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef o ganlyniad i’r hacio.

Mae llawer wedi beirniadu Sony am beidio â rhoi gwybod i gwsmeriaid fod problem nes 26 Ebrill, er eu bod wedi dechrau ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd ar 19 Ebrill.

Petai hacwyr yn llwyddiannus, dyma fyddai’r weithred unigol o ladrata data ariannol fwyaf o’i math.