Pab Bened XVI
Mae’r Pab Bened XVI wedi diswyddo esgob a feiddiodd alw ar yr Eglwys Babyddol i ystyried ordeinio merched a dynion priod.

Mae’r Fatican wedi cadarnhau mewn datganiad heddiw fod y Pab wedi “symud” yr Esgob William Morris o’i swydd yn esgobaeth Toowoomba, i’r gorllewin o ddinas Brisbane yn Awstralia.

Mae’r cadarnhad yn weithred gref iawn o safbwynt y Fatican, sydd fel arfer yn dal yn ôl rhag dweud un ffordd neu’r llall os oes swyddog wedi cael y sac.

Ond roedd yr Esgob Morris wedi cyhoeddi llythyr yn ddiweddar yn dweud ei fod wedi cael y sac oherwydd datganiad a wnaeth yn 2006 yn galw y gallai ordeinio merched a dynion priod helpu’r eglwys yn ystod cyfnod o brinder offeiriaid.

Ond mae Bened, fel ei ragflaenydd, John Paul II, yn daer mai dynion di-briod yn unig a ddylai gael eu hordeinio o fewn yr Eglwys Gatholig.