Arlywydd Syria, Bashar Assad
Cafodd rhagor o filwyr eu gyrru i dref Daraa yn Syria heddiw, ddiwrnod ar ôl i luoedd yr Arlywydd Bashar Assad ladd o leiaf 65 o bobl wrth ymosod ar ei wrthwynebwyr.

Yn ôl un o drigolion y dref, cyrhaeddodd pedwar tanc, 20 o gerbydau arfog ac ambiwlans filwol Daraa yn gynnar y bore yma.

Mae Daraa, sydd wedi bod yn ganolbwynt gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth ers chwe wythnos, o dan warchae ers ddydd Llun, pryd y cychwynnodd y llywodraeth anfon tanciau yno i chwalu’r protestiadau dyddiol.

Yn ôl Rami Abdul-Rahman, pennaeth mudiad hawliau dynol yn y wlad, cafodd 65 o bobl eu lladd ddoe, ac mae’r cyfanswm o bobl gyffredin sydd wedi marw ers cychwyn y protestiadau wedi codi i 535.