Person wedi'i anafu yn y ffrwydrad (AP Photo)
Mae tuag 14 o bobol wedi eu lladd a llawer rhagor wedi eu hanafu mewn ffrwydrad mewn ardal dwristaidd o Morocco.

Tua hanner dydd amser lleol y cafodd caffi o’r enw Argana ei chwalu mewn sgwâr yng nghanol dinas Marrakech.

Oherwydd ei bod yn amser prysur o’r dydd, roedd y sgwâr yn llawn ac, yn ôl tystion, roedd y ffrwydrad anferth wedi chwalu tu blaen y caffi.

Mae Llywodraeth Morocco’n dweud eu bod yn amau bod y ffrwydrad yn fwriadol – os felly, dyma ddigwyddiad terfysgol mwya’r wlad ers wyth mlynedd.

Fe ddywedodd un llygad dyst bod dillad y dioddefwyr yn awgrymu mai twristiaid oedd y rhan fwya’ ohonyn nhw.