Mahmoud Abbas
Mae Israel wedi wfftio at y cyhoeddiad o gytundeb hanesyddol rhwng dwy garfan y Palesteiniaid – Fatah a Hamas.

Mae’n golygu y bydd y ddwy blaid – sydd wedi bod yn elynion pennaf – yn creu llywodraeth ar y cyd i arwain at etholiadau yn Gaza a’r Lan Orllewinol o fewn tuag wyth mis.

Fe gafodd y cytundeb ei gyhoeddi ddoe gan brif gynrychiolydd Mahmoud Abbas, Arlywydd yr Awdurdod Palesteinaidd ac arweinydd Fatah. Roedd yn dilyn trafodaethau cudd yn yr Aifft.

Y cefndir

Mae’r ddwy blaid wedi bod yng ngyddfau’i gilydd ers blynyddoedd, yn enwedig ar ôl i Hamas, sydd hefyd yn fudiad milwrol, gipio grym yn Gaza yn 2007 ar ôl ennill mewn etholiad.

Ond, oherwydd bod Hamas yn gwrthod troi cefn ar drais, dyw’r gymuned ryngwladol ddim wedi cydnabod ei Llywodraeth yno na bod yn fodlon trafod gyda hi.

Ddoe, fe ddywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, bod rhaid i Mahmoud Abbas a’i awdurdod ddewis rhwng heddwch gydag Israel neu heddwch gyda Hamas.

‘Troi dalen newydd’

Ond, yn ôl Dirprwy Arweinydd Hamas, Moussa Abu Marzak, roedd y cytundeb yn arwydd o droi dalen newydd.

“R’yn ni’n falch fod gyda ni bellach yr awydd cenedlaethol i roi pen ar ein rhaniadau a gallwn roi diwedd ar oresgyniad Palesteina,” meddai prif lefarydd Fatah.

Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd agwedd y gymuned ryngwladol at y llywodraeth newydd.