Syria
Mae milwyr Syria mewn tanciau a cherbydau rhyfel wedi ymosod ar dre’ ddeheuol Daraa.

Mae Daraa wedi dod yn ganolbwynt i’r mudiad protest a ffurfiwyd fwy na mis yn ôl, wedi i’r awdurdodau arestio grwp o bobol ifanc yn eu harddegau am baentio sloganau yn gwrthwynebu’r llywodraeth ar wal.

Ers hynny, mae dros 300 o bobol wedi eu lladd ar draws y wlad, wrth i’r protestiadau yn erbyn y llywodraeth fagu stem.

Does yna ddim adroddiadau ar hyn o bryd ynglyn â faint o bobol sydd wedi eu lladd yn yr ymosodiad ar dre’ Daraa heddiw. Mae’n ymddangos fod y dre’ wedi ei thorri i ffwrdd oddi wrth y byd.

Mae dros 120 o bobol wedi cael eu lladd yn Syria ers dydd Gwener diwetha’.