baner Sudan
Mae o leia’ 57 o bobol wedi eu lladd yn ystod ymladd rhwng lluoedd y llywodraeth a rebeliaid.

Mae pennaeth Adran Wybodaeth byddin De Sudan wedi cadarnhau fod yr ymladd wedi digwydd, a bod “degau” o bobol wedi eu lladd a’u hanafu ddydd Sadwrn.

Arweinydd y rebeliaid yn rhanbarth Jonglei yw’r Uwch Gapten Gabriel Tanginye. Yn ystod y rhyfel cartref yn y wlad, Tanginye oedd yn gyfrifol am losgi a dwyn trysorau pentrefi ar lannau’r afon Nîl yn ne’r wlad. Fe barhaodd i wasanaethu’r gogledd a chael ei noddi gan Khartoum wedi i’r rhyfel ddod i ben yn 2005.

Er ei fod wedi derbyn amodau’r amnest bryd hynny, a’i fod wedi dod i gytundeb gyda’r de y llynedd, mae’n aneglur dros ba ochr y mae Tanginye bellach yn ymladd.