croes
Mae plismon Palesteinaidd wedi lladd un Israeliad ac anafu pedwar arall yn gynnar fore heddiw ger Bedd Joseff, man cysegredig i’r Iddewon yn ninas Balesteinaidd Nablus.

Dyw amgylchiadau’r saethu ddim eto’n glir. Ond mae’r gwasanaethau brys wedi cadarnhau i un gwr tua 30 oed ddod i ofyn am help, cyn marw o’i anafiadau.

Fe aeth dau arall i gymuned o dai Iddewig gerllaw gydag olion bwledi yn eu cyrff, cyn cael eu cludo i ysbyty. Roedden nhw mewn cyflwr difrifol, a dau arall yn diodde’ o anafiadau llai.

Mae’n arferiad i addolwyr Iddewig fynd i mewn i Nablus i weddïo yn yr adeilad bychain sy’n cael ei nabod fel bedd Joseff, tad Iesu. Ond mae’n rhaid iddyn nhw gael milwyr gyda nhw bob amser.

Mae’r ymweliadau’n cael eu trefnu gyda chydweithrediad y lluoedd diogelwch. Ond doedd ymweliad heddiw, mae’n ymddangos, ddim wedi ei glirio gan y ddwy ochr.