Canol Misrata cyn yr ymladd (Mario 1952 - CCA 1.0)
Mae gwrthryfelwyr yn hawlio buddugoliaeth yn nhref Misrata yn Libya wrth i luoedd y Cyrnol Gaddafi dynnu’n ôl yn rhannol oddi yno.

Ond mae pryderon hefyd am gamau nesa’r Arlywydd, gyda’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn rhoi cyfle i arweinwyr llwythau lleol drafod gyda’r gwrthryfelwyr.

Os na fydd y trafodaethau’n llwyddo, mae’r Llywodraeth yn dweud y byddan nhw’n gadael i fyddinoedd y llwythau barhau gyda’r ymladd.

Awyren ddibeilot

Roedd yr Unol Daleithiau’n hawlio bod yr ymosodiad cynta’ gan awyren ddi-beilot Predator wedi chwalu safle oedd yn tanio rocedi at Misrata.

Yn ôl rhai adroddiadau, fe gafodd tua 24 o bobol eu lladd yn yr ymladd tros nos, gan ychwanegu at gannoedd o farwolaethau sydd wedi bod yno yn ystod deufis o ymladd.

Ar wahân i Benghazi, Misrata yw’r dref fwya’ sy’n aros yn nwylo’r gwrthryfelwyr.