Canol Tripoli (CCA 2.0)
Fe gafodd un o ganolfannau’r Arlywydd Gaddafi ei tharo gan daflegrau Americanaidd neithiwr, yn ôl yr awdurdodau yn Libya.

Fe gafodd lluniau eu dangos ar y teledu yn dangos y ddwy graith lle’r oedd y taflegrau wedi taro yng nghanol Tripoli.

Yn ôl llefarydd ar ran y Cyrnol Gaddafi, roedd tri o bobol wedi cael eu lladd.

‘Neb yn ennill’

Er hynny, mae un o arweinwyr milwrol yr Unol Daleithiau wedi awgrymu bod yr ymladd yn Libya mewn cors.

Roedd peryg na fyddai’r naill ochr na’r llall yn gallu ennill, meddai Mike Mullen, cadeirydd pwyllgor penaethiaid milwrol yr Americaniaid.

Fe ddywedodd wrth filwyr yn Irac bod ymosodiadau gwledydd NATO wedi chwalu rhwng 30 a 40% o allu milwrol Gaddafi.