Byncer
  Mae gwrthwynebwyr Arlywydd y Traeth Ifori wedi dweud eu bod nhw wedi ei gornelu mewn byncer.

Maen nhw’n dweud bod yr Arlywydd Laurent Gbagbo yn gwrthod gadael y byncer mae’n rhannu gyda’i wraig.

Ond mae’r gwrthwynebwyr yn fodlon aros tan ei fod yn penderfynu gadael. 

Trwy ei lefarydd yn Ewrop, mae Laurent Gbagbo yn parhau i honni ei fod wedi ennill yr etholiad ‘nôl ym mis Tachwedd y llynedd.

Er gwaetha’r ffaith fod y gymuned ryngwladol yn dweud mai ei wrthwynebydd Alassane Quattara wnaeth ennill yr etholiad hwnnw, mae Gbagbo yn benderfynol o beidio ildio grym yn y wlad mae wedi ei rheoli ers deng mlynedd. 

“Rwyf wedi siarad gyda’r Arlywydd ac ni fydd yn ildio.  Mae’n Arlywydd a gafodd ei ethol gan y bobl,” meddai llefarydd Gbagbo. 

Mae bwrdd etholiadol y Traeth Ifori a’r Cenhedloedd Unedig wedi cadarnhau bod Gbagbo wedi colli’r etholiad arlywyddol.

Roedd ei wrthwynebydd ac enillydd yr etholiad, Alassane Quattara, wedi cymeradwyo ymyrraeth filwrol yn dilyn pedwar mis o ddiplomasi. 

Mae’r gwrthryfelwyr wedi ymosod ar gartref Laurent Gbagbo, ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw am ladd yr Arlywydd. 

Gyda Laurent Gbagbo wedi ennill 46% o’r bleidlais yn yr etholiad, fe allai marwolaeth yr Arlywydd Gbagbo achosi gwrthdaro o fewn y wlad. 

Fe ddywedodd  Alassane Quattara bod Laurent Gbagbo yn dymuno bod yn ferthyr, ond na fyddai’n caniatáu i hynny ddigwydd.