Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Pacistan wedi dweud bod lluoedd arfog wedi lladd 54 o wrthryfelwyr yng ngogledd orllewin y wlad.
Fe ddywedodd Maqsood Hasan bod tri aelod o luoedd arfog Pacistan hefyd wedi marw yn yr ymladd.
Roedd y llefarydd hefyd yn datgelu bod dau neu dri o bobol gyffredin wedi marw yn ystod y cyrch yn dilyn ffrwydrad yn agos i gartref.
Fe gafodd hofrenyddion ac awyrennau eu defnyddio i dargedu’r gwrthryfelwyr yn ardal Mohmand sy’n agos i’r ffin gydag Afghanistan.
Mae byddin Pacistan wedi lansio nifer o gyrchoedd yn erbyn y Taliban yn ardal Mohmand yn ddiweddar gan honni buddugoliaethau.
Ond mae’r gwrthryfelwyr yn parhau i fod yn bresennol gyda’r trais yn ail ddechrau yn fuan wedi cyrch diweddaraf y llywodraeth.