Affganistan
Mae ail ddiwrnod o drais wedi bod yn Affganistan, fel rhan o’r protestiadau byd-eang yn erbyn llosgi llyfr sanctaidd y Koran yn America. Mae protestwyr yn Affganistan wedi rhoi ceir a siopau ar dân, ac mae cyfanswm o naw o brotestwyr wedi eu lladd.

Mae llosgi’r llyfr mewn eglwys yn Fflorida bron i bythefnos yn ôl wedi gwylltio miliynau o Fwslimiaid ar draws y byd, gan sbarduno protestiadau gwrth-Americanaidd. Mae’r cyfan yn rhoi’r berthynas rhwng llywodraeth Affganistan a’r Gorllewin dan straen fawr.

Fe gafodd y Koran ei losgi yng Nghanolfan Dove Outreach yn Gainesville ar Fawrth 20, ond ddaeth y mwyafrif o bobol Affganistan ddim i wybod am y peth nes i’r Arlywydd Hamid Karzai ei gondemnio bedwar niwrnod yn ddiweddarach.

Dyna’r un eglwys lle’r oedd y Parchedig Terry Jones wedi bygwth dinistrio copi o’r llyfr y llynedd… cyn penderfynu’n erbyn y peth.

Heddiw, fe fu cannoedd o bobol Affganistan yn cario ffyn ac yn dal copïau o’r Koran yn yr awyr, yn gorymdeithio trwy ddinas Kandahar, dinas fwya’ de Affganistan.