Cyrnol Gaddafi
Mae Llywodraeth Libya wedi gwrthod cynnig o atal yr ymladd yn y wlad, gan ddweud bod yr awgrym yn “wallgo”.

Mae’n cael ei weld yn arwydd bod y Cyrnol Gaddafi’n credu ei fod yn cael y llaw drecha’ yn y gwrthdaro yn erbyn gwrthryfelwyr.

Roedd un o arweinwyr y rheiny wedi cynnig cadoediad ar yr amod bod lluoedd y Llywodraeth yn rhoi’r gorau i’w gwarchae o amgylch dinasoedd y gwrthryfelwyr.

Gwrthod hynny’n llwyr a wnaeth llefarydd ar ran y Llywodraeth gan ddweud bod y gwrthryfelwyr yn ddi-arweiniad a dan ddylanwad terfysgwyr al Qaida.

Yn y cyfamser, mae cynghrair NATO’n ymchwilio i honiadau bod eu hawyrennau wedi lladd saith o bobol gyffredin wrth iddyn nhw ymosod ar gonfoi milwrol.

Yn ôl y BBC, roedd y marwolaethau’n cynnwys tair merch o’r un teulu.