Atomfa Fukushima Dai-ichi

Mae ymbelydredd sy’n uwch na lefelau diogelwch y Llywodraeth wedi mynd i mewn i ddŵr daear o dan atomfa Fukishima Dai-ichi.

Ond, yn ôl yr awdurdodau, dyw hynny ddim wedi effeithio ar ddŵr yfed.

Y pryder yw y gallai achosi problem yn y tymor hir a’i fod yn arwydd o fethiant cwmni Ynni Trydan Tokyo (Tepco) i reoli’r argyfwng yn yr orsaf niwclear.

Mae gweithwyr wedi bod yn ceisio sefydlogi’r adweithyddion sydd wedi bod yn gorboethi ers y daeargryn a’r tswnami ar ar 11 Mawrth.

Mae Tepco wedi gofyn am gymorth rhyngwladol i fynd i’r afael â’r dasg gan archebu pympiau mawr o’r Unol Daleithiau i chwistrellu dŵr ar yr adweithyddion.

Mae 10,000 mwy o ymbelydredd yn y dŵr na safonau’r Llywodraeth ac mae ïodin 131 wedi ei gael 50 troedfedd o dan un o’r adweithyddion, yn ôl llefarydd ar ran y cwmni.