Gaddafi ar ddechrau'r argyfwng

Mae’r Cyrnol Gaddafi wedi beirniadu arweinwyr y Gorllewin unwaith eto, ynghanol honiadau bod ei rym yn chwalu.

Mae gwasanaeth newyddion Al Jazeera ymhlith rhai sy’n dweud y bydd rhagor o gefnogwyr yr Arlywydd yn gadael, gan ddilyn y Gweinidog Tramor ddoe.

Yn ôl eu gohebwyr dyw’r sydd wedi ei ddewis i fod yn llysgennad Libya yn y Cenhedloedd Unedig ddim yn fodlon gwneud y gwaith.

Mae yna adroddiadau hefyd bod cennad wedi ei anfon o Tripoli i drafod gyda Llywodraeth Prydain.

Mae stori yn y Daily Telegraph yn dweud bod cynorthwyydd i Saif al-Islam, mab Gaddafi, wedi’i yrru i Lundain ar gyfer trafodaethau cudd – er nad yw’r Swyddfa Dramor wedi gwneud sylw.