Mae llywodraeth alltud Tibet wedi bod yn trafod penderfyniad y Dalai Lama i roi’r gorau i’w rôl wleidyddol – gyda rhai yn ymbil arno i ail-ystyried gwneud hynny.
Mae’r Prif Weinidog mewn alltud, Samdhong Rinpoche, wedi dweud bod tua un rhan o dair o’r 43 o aelodau wnaeth gymryd rhan yn y ddadl yn galw ar yr enillydd Gwobr Heddwch Nobel i barhau fel arweinydd.
“Mae’n debygol iawn na fydd y Llywodraeth yn derbyn ei awgrym i roi’r gorau iddi,” meddai Samdhong Rinpoche wrth yr Associated Press heddiw.
Yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Dalai Lama y byddai’n rhoi’r gorau i’w rôl wleidyddol yn llywodraeth alltud Tibet ac yn rhoi’r grym i gynrychiolydd a oedd wedi’i ethol.
Fe ofynnodd i’r Llywodraeth mewn alltud ddiwygio’r cyfansoddiad gan adael i hyn ddigwydd erbyn 25 Mawrth.