Mae dyn o Ogledd Iwerddon wedi ei gael yn euog o fod yn rhan o ymosodiad ar farics Prydeinig yn yr Almaen, dros ddegawd yn ôl.

Wrth ymddangos gerbron llys yn yr Almaen cafodd James Anthony Oliver Corry ei ddedfryd i bedair blynedd dan glo.

Gwnaeth Gweriniaeth Iwerddon ddanfon y troseddwr i’r Almaen er mwyn wynebu ei gyhuddiadau, ym mis Rhagfyr y llynedd.

Bu’r dyn 48 blwydd oed o Belfast yn rhan o uned IRA wnaeth danio ffrwydron at Farics Quebec yn Osnabrueck, ar Fehefin 28 1996.

Cafodd adeiladau a cherbydau eu difrodi yn ystod yr ymosodiad ond cafodd neb eu hanafu.