Mae pennaeth un o ganghennau cwmni Amazon sy’n wynebu honiadau o aflonyddu rhywiol, wedi ymddiswyddo o’i rôl.

Yn ôl cylchgrawn The Hollywood Reporter, mae Roy Price wedi ei gyhuddo o aflonyddu’n rhywiol ar y cynhyrchydd Isa Hackett yn ystod parti gwaith yn 2015.

Daw’r ymddiswyddiad ond ychydig o ddyddiau wedi i weithwyr Amazon dderbyn memo yn nodi bod aflonyddu rhywiol ddim yn dderbyniol o fewn y cwmni.

Roedd Roy Price eisoes wedi ei wahardd o Amazon Studios ar ôl cael ei gyhuddo o anwybyddu honiadau o dreisio yn erbyn y cynhyrchydd, Harvey Weinstein.

Bellach mae Harvey Weinstein – sydd hefyd yn wynebu cyfres o gyhuddiadau rhywiol – wedi tynnu’n ôl o’i safle ar fwrdd The Weinstein Company.